Jeremeia 19:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytânt hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a'r cyfyngder, â'r hwn y cyfynga eu gelynion, a'r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt.

10. Yna y torri yr ystên yng ngŵydd y gwŷr a êl gyda thi,

11. Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a'r ddinas hon, fel y dryllia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach; ac yn Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu.

12. Fel hyn y gwnaf i'r lle hwn, medd yr Arglwydd, ac i'r rhai sydd yn trigo ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet.

Jeremeia 19