6. Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr Arglwydd. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel.
7. Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth;
8. Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi.
9. A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu, ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth;
10. Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni â'r hwn y dywedais y gwnawn les iddi.
11. Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn llunio drwg i'ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i'ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o'i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd yn dda.
12. Hwythau a ddywedasant, Nid oes obaith; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun.
13. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gofynnwch, atolwg, ymysg y cenhedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.
14. A wrthyd dyn eira Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y maes? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall?
15. Oherwydd i'm pobl fy anghofio i, hwy a arogldarthasant i wagedd, ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o'r hen lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr;