Jeremeia 18:14-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A wrthyd dyn eira Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y maes? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall?

15. Oherwydd i'm pobl fy anghofio i, hwy a arogldarthasant i wagedd, ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o'r hen lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr;

16. I wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob un a elo heibio iddo a synna, ac a ysgwyd ei ben.

17. Megis â gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd.

18. Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na'r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef â'r tafod, ac nac ystyriwn yr un o'i eiriau ef.

19. Ystyria di wrthyf, O Arglwydd, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi.

Jeremeia 18