Jeremeia 18:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

2. Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.

3. Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau.

4. A'r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwynwyd yn llaw y crochenydd; felly efe a'i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef.

5. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

6. Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr Arglwydd. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel.

7. Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth;

8. Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi.

Jeremeia 18