15. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.
16. A'r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a'r cleddyf; ac ni bydd neb i'w claddu, hwynt‐hwy, na'u gwragedd, na'u meibion, na'u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.
17. Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac â phla tost iawn.
18. Os af fi allan i'r maes, wele rai wedi eu lladd â'r cleddyf; ac o deuaf i mewn i'r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a'r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.
19. Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? disgwyliasom am heddwch, ac nid oes daioni; ac am amser iachâd, ac wele flinder.
20. Yr ydym yn cydnabod, Arglwydd, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di.
21. Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant: cofia, na thor dy gyfamod â ni.
22. A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O Arglwydd ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.