13. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma.
14. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proffwydo i chwi.
15. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.
16. A'r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a'r cleddyf; ac ni bydd neb i'w claddu, hwynt‐hwy, na'u gwragedd, na'u meibion, na'u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.
17. Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac â phla tost iawn.
18. Os af fi allan i'r maes, wele rai wedi eu lladd â'r cleddyf; ac o deuaf i mewn i'r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a'r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.