Jeremeia 13:14-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a'r meibion ynghyd, medd yr Arglwydd: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.

15. Clywch, a gwrandewch; na falchïwch: canys yr Arglwydd a lefarodd.

16. Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a'i wneuthur yn dywyllwch.

17. Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a'm llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr Arglwydd i gaethiwed.

18. Dywed wrth y brenin a'r frenhines, Ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys disgynnodd eich pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.

19. Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a'u hagoro; Jwda i gyd a gaethgludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed.

20. Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o'r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth?

21. Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a'u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor?

22. Ac o dywedi yn dy galon, Paham y digwydd hyn i mi? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre, ac y dinoethwyd dy sodlau.

23. A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg.

24. Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch.

25. Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr Arglwydd; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd.

26. Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth.

27. Gwelais dy odineb a'th weryriad, brynti dy buteindra a'th ffieidd‐dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerwsalem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?

Jeremeia 13