6. Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt‐hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.
7. Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion.
8. Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i'm herbyn; am hynny caseais hi.
9. Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgesglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa.
10. Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol.
11. Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon.
12. Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy'r anialwch: canys cleddyf yr Arglwydd a ddifetha o'r naill gwr i'r ddaear hyd y cwr arall i'r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd.
13. Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt: a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr Arglwydd.