Jeremeia 11:5-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O Arglwydd, felly y byddo.

6. Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, gan ddywedyd, Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt.

7. Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais.

8. Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.

9. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem.

10. Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i'w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â'u tadau hwynt.

11. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt.

12. Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogldarthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd.

13. Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i'r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal.

14. Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd.

15. Beth a wna fy annwyl yn fy nhŷ, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a'r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit.

16. Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr Arglwydd dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tân ynddi, a'i changhennau a dorrwyd.

Jeremeia 11