Jeremeia 1:17-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt.

18. Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir.

19. Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni'th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i'th ymwared, medd yr Arglwydd.

Jeremeia 1