Jeremeia 1:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Geiriau Jeremeia mab Hilceia, o'r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth, o fewn tir Benjamin:

2. Yr hwn y daeth gair yr Arglwydd ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad ef.

3. Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis.

4. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

5. Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a'th adnabûm; a chyn dy ddyfod o'r groth, y sancteiddiais di; a mi a'th roddais yn broffwyd i'r cenhedloedd.

6. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.

7. Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y'th anfonwyf, a'r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi.

Jeremeia 1