Jeremeia 1:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Geiriau Jeremeia mab Hilceia, o'r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth, o fewn tir Benjamin:

2. Yr hwn y daeth gair yr Arglwydd ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad ef.

3. Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis.

4. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

Jeremeia 1