Ioan 9:34-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan.

35. Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?

36. Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo?

Ioan 9