Ioan 9:33-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim.

34. Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan.

35. Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?

36. Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo?

37. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a'i gwelaist ef; a'r hwn sydd yn ymddiddan รข thi, hwnnw ydyw efe.

38. Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a'i haddolodd ef.

Ioan 9