Ioan 9:31-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando.

32. Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall.

33. Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim.

34. Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan.

Ioan 9