Ioan 9:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o'i enedigaeth.

2. A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?

3. Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.

Ioan 9