Ioan 8:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.

5. A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio'r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?

6. A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua'r llawr, a ysgrifennodd â'i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed.

7. Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi.

8. Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua'r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear.

9. Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o'r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.

10. A'r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di?

11. Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.

12. Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni'r byd ydwyf fi: yr hwn a'm dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni'r bywyd.

13. Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir.

14. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned.

15. Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb.

16. Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a'r Tad yr hwn a'm hanfonodd i.

Ioan 8