Ioan 8:32-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhyddha chwi.

33. Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?

34. Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.

35. Ac nid yw'r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth.

36. Os y Mab gan hynny a'ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir.

37. Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi.

38. Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda'm Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda'ch tad chwithau.

39. Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech.

40. Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham.

41. Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw.

42. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a'm carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a'm hanfonodd i.

43. Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i.

44. O'ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o'r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.

45. Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi.

Ioan 8