Ioan 8:11-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.

12. Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni'r byd ydwyf fi: yr hwn a'm dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni'r bywyd.

13. Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir.

14. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned.

15. Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb.

16. Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a'r Tad yr hwn a'm hanfonodd i.

17. Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn.

18. Myfi yw'r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi.

19. Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na'm Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd.

20. Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.

Ioan 8