Ioan 8:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd:

2. Ac a ddaeth drachefn y bore i'r deml; a'r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a'u dysgodd hwynt.

3. A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol,

4. Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.

5. A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio'r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?

6. A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua'r llawr, a ysgrifennodd รข'i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed.

Ioan 8