Ioan 7:8-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ewch chwi i fyny i'r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i'r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto.

9. Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea.

10. Ac wedi myned o'i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i'r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel.

11. Yna yr Iddewon a'i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?

12. A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo'r bobl y mae.

13. Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon.

14. Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i'r deml, ac a athrawiaethodd.

15. A'r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu?

16. Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo'r hwn a'm hanfonodd i.

17. Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru.

18. Y mae'r hwn sydd yn llefaru ohono'i hun, yn ceisio'i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.

19. Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i?

20. Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?

21. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu.

22. Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o'r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth.

23. Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth?

24. Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.

25. Yna y dywedodd rhai o'r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw'r un y maent hwy yn ceisio'i ladd?

26. Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu'r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir?

Ioan 7