47. Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd?
48. A gredodd neb o'r penaethiaid ynddo ef, neu o'r Phariseaid?
49. Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt.
50. Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt,
51. A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe?
52. Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea.
53. A phob un a aeth i'w dŷ ei hun.