32. Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a'r Phariseaid a'r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i'w ddal ef.
33. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd.
34. Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod.
35. Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu'r Groegiaid?
36. Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod?
37. Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o'r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed.
38. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o'i groth ef.
39. (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi'r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)