29. Ond myfi a'i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a'm hanfonodd i.
30. Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto.
31. A llawer o'r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na'r rhai hyn a wnaeth hwn?
32. Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a'r Phariseaid a'r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i'w ddal ef.
33. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd.
34. Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod.
35. Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu'r Groegiaid?
36. Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod?
37. Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o'r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed.
38. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o'i groth ef.
39. (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi'r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)
40. Am hynny llawer o'r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw'r Proffwyd.
41. Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist?
42. Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod?
43. Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o'i blegid ef.
44. A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno.
45. Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a'r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef?
46. A'r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn.
47. Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd?
48. A gredodd neb o'r penaethiaid ynddo ef, neu o'r Phariseaid?
49. Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt.