Ioan 7:27-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae.

28. Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a'm hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a'm hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.

29. Ond myfi a'i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a'm hanfonodd i.

30. Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto.

31. A llawer o'r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na'r rhai hyn a wnaeth hwn?

32. Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a'r Phariseaid a'r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i'w ddal ef.

33. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd.

34. Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod.

35. Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu'r Groegiaid?

36. Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod?

37. Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o'r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed.

38. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o'i groth ef.

39. (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi'r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)

Ioan 7