Ioan 7:19-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i?

20. Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?

21. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu.

22. Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o'r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth.

23. Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth?

24. Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.

25. Yna y dywedodd rhai o'r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw'r un y maent hwy yn ceisio'i ladd?

26. Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu'r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir?

Ioan 7