11. Yna yr Iddewon a'i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?
12. A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo'r bobl y mae.
13. Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon.
14. Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i'r deml, ac a athrawiaethodd.
15. A'r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu?
16. Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo'r hwn a'm hanfonodd i.