10. Ac wedi myned o'i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i'r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel.
11. Yna yr Iddewon a'i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?
12. A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo'r bobl y mae.
13. Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon.
14. Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i'r deml, ac a athrawiaethodd.
15. A'r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu?
16. Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo'r hwn a'm hanfonodd i.
17. Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru.
18. Y mae'r hwn sydd yn llefaru ohono'i hun, yn ceisio'i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.
19. Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i?
20. Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?
21. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu.
22. Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o'r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth.
23. Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth?
24. Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.