Ioan 7:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef.

2. A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos.

3. Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.

Ioan 7