Ioan 6:4-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A'r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos.

5. Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta?

6. (A hyn a ddywedodd efe i'w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.)

7. Philip a'i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig.

8. Un o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr,

9. Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer?

10. A'r Iesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer.

11. A'r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o'r pysgod, cymaint ag a fynasant.

12. Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim.

13. Am hynny hwy a'u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o'r briwfwyd o'r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent.

14. Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai'r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw'r proffwyd oedd ar ddyfod i'r byd.

15. Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a'i gipio ef i'w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i'r mynydd, ei hunan yn unig.

16. A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr.

17. Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a'r Iesu ni ddaethai atynt hwy.

18. A'r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd.

19. Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant.

Ioan 6