33. Canys bara Duw ydyw'r hwn sydd yn dyfod i waered o'r nef, ac yn rhoddi bywyd i'r byd.
34. Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni'r bara hwn yn wastadol.
35. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara'r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.
36. Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu.
37. Yr hyn oll y mae'r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a'r hwn a ddĂȘl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.
38. Canys myfi a ddisgynnais o'r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd.
39. A hyn yw ewyllys y Tad a'm hanfonodd i; o'r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf.