21. Yna y derbyniasant ef yn chwannog i'r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.
22. Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i'r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i'r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai'r Iesu gyda'i ddisgyblion i'r llong, ond myned o'i ddisgyblion ymaith eu hunain;
23. (Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i'r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:)
24. Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na'i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu.
25. Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma?
26. Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni.
27. Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad.
28. Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw?