Ioan 6:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a'r Iesu ni ddaethai atynt hwy.

18. A'r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd.

19. Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant.

20. Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch.

Ioan 6