Ioan 6:14-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai'r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw'r proffwyd oedd ar ddyfod i'r byd.

15. Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a'i gipio ef i'w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i'r mynydd, ei hunan yn unig.

16. A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr.

17. Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a'r Iesu ni ddaethai atynt hwy.

18. A'r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd.

19. Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant.

20. Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch.

21. Yna y derbyniasant ef yn chwannog i'r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.

22. Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i'r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i'r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai'r Iesu gyda'i ddisgyblion i'r llong, ond myned o'i ddisgyblion ymaith eu hunain;

23. (Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i'r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:)

24. Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na'i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu.

25. Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma?

26. Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni.

27. Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad.

Ioan 6