Ioan 6:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wedi'r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias.

2. A thyrfa fawr a'i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.

3. A'r Iesu a aeth i fyny i'r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda'i ddisgyblion.

4. A'r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos.

5. Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta?

6. (A hyn a ddywedodd efe i'w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.)

7. Philip a'i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig.

Ioan 6