Ioan 5:5-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain.

6. Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?

7. Y claf a atebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i'm bwrw i'r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i.

8. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod cymer dy wely i fyny, a rhodia.

9. Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A'r Saboth oedd y diwrnod hwnnw.

10. Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y Saboth yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely.

11. Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.

12. Yna hwy a ofynasant iddo, Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia?

13. A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasai o'r dyrfa oedd yn y fan honno.

14. Wedi hynny yr Iesu a'i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.

15. Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i'r Iddewon, mai'r Iesu oedd yr hwn a'i gwnaethai ef yn iach.

16. Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth.

17. Ond yr Iesu a'u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.

18. Am hyn gan hynny yr Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dorri'r Saboth, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal รข Duw.

19. Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae'r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur.

Ioan 5