Ioan 5:45-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

45. Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a'ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.

46. Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe.

47. Ond os chwi ni chredwch i'w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i'm geiriau i?

Ioan 5