Ioan 5:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i'r llyn, ac yn cynhyrfu'r dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu'r dwfr, a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno.

5. Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain.

6. Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?

7. Y claf a atebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i'm bwrw i'r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i.

8. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod cymer dy wely i fyny, a rhodia.

9. Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A'r Saboth oedd y diwrnod hwnnw.

10. Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y Saboth yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely.

11. Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.

12. Yna hwy a ofynasant iddo, Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia?

Ioan 5