Ioan 5:19-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae'r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur.

20. Canys y Tad sydd yn caru'r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na'r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.

21. Oblegid megis y mae'r Tad yn cyfodi'r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.

22. Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i'r Mab:

23. Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu'r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu'r Mab, nid yw yn anrhydeddu'r Tad yr hwn a'i hanfonodd ef.

24. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.

25. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae'r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo'r meirw lef Mab Duw: a'r rhai a glywant, a fyddant byw.

26. Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i'r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun;

27. Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn.

28. Na ryfeddwch am hyn: canys y mae'r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef:

Ioan 5