Ioan 5:14-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Wedi hynny yr Iesu a'i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.

15. Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i'r Iddewon, mai'r Iesu oedd yr hwn a'i gwnaethai ef yn iach.

16. Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth.

17. Ond yr Iesu a'u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.

18. Am hyn gan hynny yr Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dorri'r Saboth, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal รข Duw.

19. Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae'r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur.

20. Canys y Tad sydd yn caru'r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na'r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.

21. Oblegid megis y mae'r Tad yn cyfodi'r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.

22. Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i'r Mab:

23. Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu'r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu'r Mab, nid yw yn anrhydeddu'r Tad yr hwn a'i hanfonodd ef.

24. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.

25. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae'r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo'r meirw lef Mab Duw: a'r rhai a glywant, a fyddant byw.

Ioan 5