Ioan 4:37-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Canys yn hyn y mae'r gair yn wir, Mai arall yw'r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.

38. Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt.

39. A llawer o'r Samariaid o'r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum.

Ioan 4