Ioan 4:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Efe a adawodd Jwdea, ac a aeth drachefn i Galilea.

4. Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.

5. Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i'w fab Joseff:

6. Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.

7. Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a'r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed.

8. (Canys ei ddisgyblion ef a aethent i'r ddinas i brynu bwyd.)

9. Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw'r Iddewon yn ymgyfeillach รข'r Samariaid.

10. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw'r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.

11. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a'r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw?

Ioan 4