22. Chwychwi ydych yn addoli'r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli'r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o'r Iddewon.
23. Ond dyfod y mae'r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo'r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio i'w addoli ef.
24. Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.
25. Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.
26. Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.
27. Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
28. Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i'r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion,
29. Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw'r Crist?
30. Yna hwy a aethant allan o'r ddinas, ac a ddaethant ato ef.
31. Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.
32. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i'w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho.
33. Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i'w fwyta?
34. Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorffen ei waith ef.
35. Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw'r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i'r cynhaeaf.
36. A'r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, ac i'r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd.