25. Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a'r Iddewon, ynghylch puredigaeth.
26. A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, am yr hwn y tystiolaethaist ti, wele, y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef.
27. Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r nef.
28. Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd ohonof fi, Nid myfi yw'r Crist, eithr fy mod wedi fy anfon o'i flaen ef.
29. Yr hwn sydd ganddo y briodferch, yw'r priodfab: ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab: y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd.
30. Rhaid ydyw iddo ef gynyddu, ac i minnau leihau.
31. Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o'r ddaear, sydd o'r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o'r nef, sydd goruwch pawb.
32. A'r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef.
33. Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw Duw.
34. Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd.
35. Y mae'r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef.
36. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.