Ioan 3:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

16. Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

17. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.

Ioan 3