18. Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a'th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a'th wregysa, ac a'th arwain lle ni fynnit.
19. A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
20. A Phedr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw'r hwn a'th fradycha di?)
21. Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn?
22. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi.
23. Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai'r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?
24. Hwn yw'r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir.