Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn.