12. Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a'i fam, a'i frodyr, a'i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.
13. A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a'r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem;
14. Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a'r newidwyr arian yn eistedd.
15. Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a'u gyrrodd hwynt oll allan o'r deml, y defaid hefyd a'r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau:
16. Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.
17. A'i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a'm hysodd i.
18. Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?
19. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.
20. Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau?
21. Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff.
22. Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a'r gair a ddywedasai yr Iesu.
23. Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe.
24. Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll;
25. Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.