Ioan 18:13-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac a'i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe.

14. A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.

15. Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a'r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda'r Iesu i lys yr archoffeiriad.

16. A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn.

17. Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf.

18. A'r gweision a'r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, oherwydd ei bod hi'n oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymo: ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymo.

19. A'r archoffeiriad a ofynnodd i'r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth.

20. Yr Iesu a atebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae'r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim.

21. Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i.

22. Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o'r swyddogion a'r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i'r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti'n ateb yr archoffeiriad?

Ioan 18