8. Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a'm hanfonaist i.
9. Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt.
10. A'r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a'r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt.
11. Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau.
12. Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a'u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur.
13. Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.
14. Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a'r byd a'u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o'r byd, megis nad ydwyf finnau o'r byd.
15. Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o'r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg.
16. O'r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o'r byd.
17. Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.
18. Fel yr anfonaist fi i'r byd, felly yr anfonais innau hwythau i'r byd.